Thursday 5 March 2020

Geirau Cymraeg gwlatgarol newydd i’r dôn gwyddelig ‘A Nation Once Again’ fel cyfraniad i’r Ymgyrch dros Annibyniaeth.




Fe Ddaw Cymru’n Gymru Rydd

Fe gofiwn am ein harwyr dewr
fu’n brwydro yn erbyn pob gelyn.
 Bu tywalt gwaed a cholli tir
tra’n ymgyrchu i warchod ein rhyddid.
Ond er gwaetha’r brwydro a’r aberth a fu,
estroniaid ennillodd y dydd,
ond mae sôn bod Owain yma’n ôl
i’n harwain i Gymru Rydd.

Cytgan
Fe ddaw Cymru’n Gymru Rydd,
Fe ddaw Cymru’n Gymru Rydd,
gyda baner Glyndŵr ar flaen y Gâd,
fe ddaw Cymru’n Gymru Rydd.


Er gwaethaf Edward a’r gormes a fu
dan ddwylo gwaedlyd y Saeson.
Ac er gwaethaf y cylch o gestyll dur
a’n cadwodd yn gaethweision,
mae’r Cymry eto ar eu traed
yn barod i ad-ennill y dydd
Gyda baner Glyndŵr ar flaen y gâd
i’n harwain i Gymru Rydd.

Cytgan
Fe ddaw Cymru’n Gymru Rydd,
Fe ddaw Cymru’n Gymru Rydd,
gyda baner Glyndŵr ar flaen y Gâd
fe ddaw Cymru’n Gymru Rydd.


Mae cofeb i Lywelyn yng Nghilmeri draw
a phlac i Dafydd yn Amwythig.
Cynlluniwyd i ddwyn ein sofraniaeth ni
drwy orfodi arnom rhyw ddeddf uno,
ond er gwaethaf pob cynllwyn ac er gwaethaf pob brad,
mae eto haul ar fryn
gyda’r Cymry yn codi ym mhob cwr o’r wlad,
 i gael Cymru’n Gymry Rydd.



Cytgan

Fe ddaw Cymru’n Gymru Rydd,
Fe ddaw Cymru’n Gymru Rydd,
gyda baner Glyndŵr ar flaen y Gâd,
fe ddaw Cymru’n Gymru Rydd.


Gwelir baner Glyndŵr ar ben pob bryn
ac yn morio ar hyd y strydoedd.
Mae y Mab Darogan yn ôl yn ein mysg
i’n harwain i fuddugoliaeth.
Bydd dim croeso i Carlo na William na’u hil
nac i unrhyw lyfwr tîn,
a chawn wared ar reolaeth Llundain bell
Pan ddaw Cymru’n Gymru Rydd.


Cytgan…dwy waith i ddiweddu’r gân.