Friday 17 June 2022

21 MEHEFIN 1404 DYDD SOFRANIAETH - ANNUAL WELSH INDEPENDENCE DAY CELEBRATIONS - DATHLU CENEDLAETHOL - NATIONAL CELEBRATION 2022>

Hwre! Mae'n Droad y Rhod 2022, ac mae'n ddydd i ddathlu ein sofran iaeth fel cenedl, dylai bod pob plentyn ysgol a phob oedolyn yng Nghymru yn deall pwysicrwydd y dyddiad oll bwysig yma yn ein hanes. Dyma'r dyddiad wrth gwrs bu i Dywysog Owain Glyndŵr sefydlu ein Senedd Gymreig 'go iawn' ym Machynlleth, y Senedd a welodd  bwysigion a Gwerin ynghŷd yn manteisio ar yr adeg mwyaf golau yma o'r flwyddyn i farchota a cherdded o bob cwmwd a chymuned yng Nghymru a thu hwnt i weld ein wir Dywysog yn cael ei goroni yn Dywysog Cymru yn y Senedd yn 1404. 






Ond, oherwydd cryfder milwrol ac adnoddau mwy pwerus y wlad ysglyfaethus dros y ffin, collwyd ein hannibyniaeth erbyn 1421 ac os ydym, o ddifrif, am ad-ennil yr Annibyniaeth hynny yn ôl heddiw, yna, mae'n hanfodol i sicrhau bod pob plentyn ac unigolyn yng Nghymru yn gwybod yr hanes yma'n drwyadl ac yn parchu'r brwydro ac aberth a fu i gadw ein cenedl yn Gymru Rydd. 

Credaf, wedi 23 mlynedd o ddyfal barhâd, o gyfeiriad Llysgenhadaeth Glyndŵr yn bennaf, mae'r 'hinsawdd yn newid ac mae'r rhod yn troi ac er gwaethaf ymdrechion daer 'y gelyn Prydeinig' dros y ffin a 'gwesion llwfr' y drefn honno yng Nghymru i sgubo hanes Tywysog Owain Glyndŵr a'i Rhyfel fawr a hir dros Annibyniaeth dan y carped, mae yna arwyddion bychan bod y Cymry, o'r diwedd yn deffro o'u trwmgwsg a bod ysbryd Owain eto yn carlamu drwy'r tir i arwain y Cymry i ad-ennill Annibyniaeth ein cenedl.


       

Diolch i ymdrechion Llysgenhadaeth Glyndŵr, mae mwy o Gymry na bu ers cyfnod Owain Glyndŵr yn gyfarwydd a'i faner erbyn hyn ac mae mwy a mwy yn sylweddoli mai ymdrech arall i dwyllo a dallu'r Cymry oedd bwriad y drefn Brydeinig drwy gael brenhines Lloegr i anrhegu ein cenedl gyda y "rhagsyn Tuduraidd",  baner y sglyfath Harri Tudur yna, yn 1959,  10 mlynedd yn union cyn arwisgiad Charles Windsor yng Nghaernarfon. Yn ystod y Jiwbili Platinwm Prydeinig prin bythefnos yn ôl, roeddem ar daith 'ymgyrchu' drwy Gymru ac roedd yn galonogol iawn i weld nad oedd bron iawn 'dim rhagsyn o'r jacs i'w gweld a prin iawn oedd yna "rhagsyniaid Tuduraidd" i'w gweld yn chwifio - ar wahan i Llambed a oedd wedi mynd OTT gyda "rhagsyniaid Tuduraidd" bach papur uwchben pob siop! Roedd yn galonogol i dystiolaethu ar ein taith bod yna fwy o lawer o faneri Glyndŵr i'w gweld yn chwifio ar dai, tafarnau a siopau na'r "rhagsyn Tuduraidd" ac, yn oll bwysig, roedd hi'n galonogol i weld y plant, Cymry'r dyfodol yn gosod baneri Glyndŵr ar eu cestyll tywod lle, yn y gorffennol, byddan nhw wedi gosod y "rhagsyn Tuduraidd" arnynt.     Da iawn chi blantos...YMLAEN! 

     







A tydi'n wych i weld bod Tafarn y Llew Du yn Aberystwyth wedi mynd i'r drafferth, ar gost, i gomisiynu'r  murlun isod ar fur yn y dafarn. Da iawn Y Llew Du, cofiwch pawb fynychu'r dafarn am lynciad ac i weld y murlun a gobeithio'n wir byddem yn gweld murluniau tebyg ar hyd a lled y wlad ar furiau mewn tafarndai ac ar furiau tai ynghŷd â baner Glyndŵr yn chwifio wrth gwrs. Am gael Annibyniaeth? Dyma gamau positif pendant tuag at gyrraedd y nod, dangoswch her i Lywodraeth Lloegr ac addysgu ein pobl ein hunain eu hanes brodorol ar yr un pryd.  



Felly, wedi tystiolaethu â fy llygaid fy hunan y cynnydd aruthrol  sydd mewn cydnabyddiaeth i'n harwr mayaf ar hyd a lled y wlad, rwy'n hollol ffyddiog bod y frwydr ar droed i ryddhau ein hunain o gadwynau'r Prydeinwyr a'u trefn llawn problemau. . Mae na waith enfawr o'n blaenau i fynnu ein tir yn ôl ac i orfodi'r gwleidyddion dŵl yn Mae Caerdydd i roi blaenoriaeth i'r Cymry difreintiedig am unwaith yn hytrach nac i'r crachach a'r pobl dwad gyda eu polisau TAN twp. Dewch i ni deiladu ar yr hyn sy'n cael ei wireddu drwy sicrhau mor o liwiau coch a melyn Glyndŵr ar hyd a lled y wlad a bydded i pob faner Jac yr Undeb a'r rhagsyn Tuduraidd gael eu llosgi a'u gilydd. 


 "Drwy ddulliau chwyldro yn unig" cawn Annibyniaeth yn ôl ac nid drwy falu cachu ar fb a'i debyg na chwaith drwy ganu cân camarweiniol a nawddoglyd a gyfansoddwyd gan un sy'n rwbio'i ddwylo yr holl ffordd i'w fanc! 


  


Mae Owain yn dweud...BRWYDRWCH YN OL CYN IDDI FOD DROSODD...I'R GAD!



Cyfraniad Gethin o'r pwynt yma'n mlaen.